TYSTIOLAETH YSGRIFENEDIG

DYFODOL I’R IAITH

 

Ymgynghoriad ar egwyddorion cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru)

 

 

I sylw

 

Rheolwr Craffu

 

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

 

 

5 Tachwedd 2015

 

 

Cyswllt:

Heini Gruffudd

2 Lôn Rhianfa

Ffynhonne

Abertawe

SA1 6DJ

 

heini@gruffudd.org

01792 455410

 


 

 

Y CEFNDIR POLISI

 

Mae'n argyfwng ar y Gymraeg fel iaith hyfyw, yn yr ychydig gymunedau a threfi lle y mae hi'n dal i fod yn iaith y mwyafrif.  Mae cefnogaeth eang yng Nghymru i’r syniad o gynnal yr iaith Gymraeg fel iaith gymunedol.  Mae nifer fawr o Gymry nad ydynt yn ei siarad yn rhyfedd o falch o’r ffaith fod yna lefydd yn ein gwlad lle “na chlywch chi ddim byd ond y Gymraeg”.  Hynny yw mae bodolaeth y cymunedau ieithyddol hyn yn fater dirfodol i bobl Cymru, y tu hwnt i’r rhai sy’n siarad yr iaith. 

 

 

PWRPAS CYFRAITH CYNLLUNIO

 

Heb gyfraith cynllunio, byddai rhyddid llwyr gan berchnogion a datblygwyr eiddo i wneud beth bynnag a fynnent ar eu tir, o godi adeiladau i brosesu cemegolion gwenwynig.  Diben cyfraith cynllunio yw gosod rhyddid tirfeddianwyr a datblygwyr yn y glorian a’i bwyso yn erbyn ystyriaethau eraill.  Mae’r rhain yn cynnwys  buddiannau cymdogion, yr amgylchedd neu’r gymuned, yn ogystal â materion sy’n cael eu hystyried i fod yn rhai y dylid eu diogelu o ran egwyddor e.e. henebion neu ystlumod.  Felly er enghraifft, yn achos tyrbeini gwynt, rhoddir yn y glorian ar y naill law hawl y tirfeddiannwr a’r angen am ynni glân, ac ar y llall ymyrraeth â byd natur a harddwch naturiol.

 

 

EFFAITH RHYDDID Y FARCHNAD AR YR IAITH GYMRAEG

 

Yn achos yr iaith Gymraeg, mae “rhyddid y farchnad” wedi gwneud lles ac wedi gwneud drwg.  Er enghraifft, gellir dadlau bod y datblygu dwys a fu yng nghymoedd glofaol y de, cyn bod deddfau datblygu, wedi arwain at ddosbarth gweithiol a dosbarth canol diwydiannol Cymraeg eu hiaith sydd wedi galluogi’r Gymraeg i ddatblygu yn iaith fodern mewn modd na wnaeth yr un iaith Geltaidd arall.  Mae hefyd wedi gwneud drwg, er enghraifft, ym maes ail gartrefi a thai haf. 

 

Yng nghyd-destun y Gymraeg, gor-ddatblygu stadau tai a throi carafannau gwyliau yn anheddau parhaol ar sail eang yw’r enghreifftiau amlycaf o sefyllfa lle mae yna annhegwch sylfaenol o ffafrio rhyddid y farchnad dros ddymuniadau pobl leol a’u cynrychiolwyr etholedig i warchod natur ieithyddol yr ardal.

 

 

PAM FOD RHEOLI DATBLYGU TAI AC ANHEDDAU MOR BWYSIG?

 

Nododd ffigurau’r Cyfrifiad diweddar fod cwymp wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd a ystyrid i fod yn gadarnleodd.  Mae’r rhesymau dros y cwymp ac ystyr y ffigurau eu hunain yn gymhleth.  Yn sicr mae ffactorau cymdeithasol a seicolegol ar waith, yn arbennig o ran trosglwyddo’r iaith o fewn teuluoedd. Ystyriwn fod tebygolrwydd parhad yr iaith a’i throsglwyddiad yn uwch lle mae hi’n fyw fel iaith gymunedol bob dydd, ac mae rhywbeth y gellir ei wneud am hynny.

 

Mae’r iaith Gymraeg a chymunedau Cymraeg wedi croesawu pobl o’r tu allan erioed, ac mae amrywiaeth cyfenwau pobl sy’n siarad Cymraeg (yn Wyddelig, Seisnig, Eidalaidd, Llychlynaidd, Ffrengig ac yn y blaen) yn dyst i hyn.  Yr hyn sy’n wahanol nawr yw gallu’r cymunedau i gymhathu newydd-ddyfodiaid yn effeithiol, ymdrech a wneir yn anoddach fyth os cynyddir nifer y tai y tu hwnt i anghenion lleol.  

 

 

Dengys gwaith ystadegol Hywel Jones (gynt o Fwrdd yr Iaith) yn eithaf clir fod iaith y "cyfarchiad cyntaf" yn troi o fod yn Gymraeg i fod yn Saesneg pan fo canran y siaradwyr Cymraeg mewn cymuned yn disgyn o dan 70%.  Mewn geiriau eraill, does dim rhaid i’r Gymraeg fynd yn iaith leiafrifol cyn colli ei lle fel prif iaith y stryd.

 

Mae caniatáu adeiladu stadau tai mawrion sy'n mynd y tu hwnt i'r galw lleol am dai yn golygu bod y trothwy yma mewn peryg o gael ei gyrraedd yn gynt, gan (1) nad siaradwyr Cymraeg sy'n dod i fyw yno gan fwyaf a (2) fod y niferoedd gyfryw fel na ellir eu cymhathu i'r gymuned leol. 

 

Gymaint yn fwy felly yw'r anawsterau i'r Gymraeg mewn llefydd lle mae hi'n iaith fwyafrifol o drwch blewyn, neu'n iaith lleiafrif swmpus.  Yma mae’n parhau i gael ei defnyddio fel iaith gymunedol, ond nid iaith y cyfarchiad cyntaf.  Mae datblygiadau tai mawrion yn prysuro ei thranc fel iaith gymunedol, ac mae'r ymdrechion i gymhathu hyd yn oed yn anos.  

 

Gall cyfraith cynllunio helpu drwy sicrhau bod ystyriaethau fel hyn yn cael eu rhoi yn y glorian wrth ystyried ceisiadau, ac yn dwyn pwysau priodol, fel y mae ystyriaethau sy'n ymwneud â chadwraeth naturiol neu gadwraeth y "dreftadaeth adeiledig".

 

Er enghraifft, yn achos pentref Penybanc yn Sir Gaerfyrddin, lle mae’r Gymraeg yn iaith fwyafrifol o drwch blewyn, fe bleidleisiodd y cynghorwyr yn erbyn adeiladu nifer fawr o dai yn yr ardal ar y sail y byddai hynny’n peryglu sefyllfa’r Gymraeg.

 

Er gwaethaf hyn fodd bynnag, gwyrdröwyd penderfyniad y cynghorwyr yn dilyn cyngor gan y swyddogion cynllunio.  Sut all hyn fod? 

 

Mae’r ateb i’w ganfod yn natur y gyfundrefn gynllunio ei hun. 

 

Sail y gyfundrefn yw deddfau cynllunio a wnaed yn San Steffan ac is-ddeddfau a wnaed gan weinidogion llywodraethau Whitehall a Chaerdydd. 

 

At hyn, ceir dogfennau polisi sy’n datgan polisi canolog, a dogfennau “cyngor technegol”, sy’n rhoi canllawiau i awdurdodau cynllunio sut i fynd ati i weithredu’r deddfau mewn amgylchiadau penodol. 

 

O ran lle’r iaith Gymraeg yn y drefn cynllunio, ac eithrio pedwar paragraff go annelwig ym mhrif Bolisi Cynllunio Cymru, un o’r dogfennau “cyngor technegol” yma, sef TAN 20 fel y’i gelwir, yw’r cwbl sydd gennym.

 

 

ANNIGONOLRWYDD TAN 20

 

Yn y lle cyntaf, canllaw yw TAN 20, nid deddf.  I’r graddau y bo’n gyfraith o gwbl, cyfraith feddal iawn yw.  Dim ond talu sylw iddo y mae’n rhaid i awdurdod cynllunio ei wneud.  Os na chedwir ato, beth wedyn?  Mae hawl gan y datblygwr eiddo i apelio yn y fath amgylchiadau, ond dim hawl gan y cyhoedd fel y cyfryw.

 

Yn ail, mae TAN 20 yn weithredol ar lefel y cynllun datblygu lleol.  Nid yw’n weithredol ar lefel cais cynllunio unigol.

 

Yn drydydd, mae pob TAN 20, gan gynnwys yr un diweddaraf, wedi pwysleisio mai “ystyriaethau cynllunio” sydd yn gorfod bod yn drech wrth benderfynu ar geisiadau.  Nid ymhelaethir ryw lawer ar hyn, ond mae’n ddigon eglur nad yw gwarchod y Gymraeg yn ystyriaeth o’r fath.

 

Yn bwysicach na hyn oll, oherwydd nad yw’n ddeddf, gellir herio dilysrwydd TAN 20 ei hun yn y llysoedd gan ddatblygwr y gwrthodir ei gais.

 

Mae mwy na sŵn ym mrig y morwydd fod rhai cyfreithwyr yn cynghori ei bod hi’n gyfreithiol annilys i gymryd sylw o effaith ar y Gymraeg o gwbl mewn penderfyniadau cynllunio, a felly bod TAN 20 ei hun yn anghyfreithlon.

 

Hyd yn oed os yw’r cyfreithwyr hyn yn anghywir, mae’r sefyllfa yn anghytbwys yn ei gwraidd, gan fod nerfusrwydd neu gyndynrwydd ar ran swyddogion a chynghorwyr polisi yn mynd i barhau.  Ni ellir eu beio am hyn.  Yn y pen draw, asesu risg yw gwaith swyddogion o’r fath.  Mae’n haws rhoi cyngor diogel a gwneud penderfyniad na ellir mo’i herio yn y llysoedd, na chreu risg o gyfreitha yn erbyn yr awdurdod cynllunio.

 

Mewn geiriau eraill, nid yw’n eglur fod yr iaith Gymraeg yn gallu bod yn y glorian o gwbwl dan y drefn bresennol, ac os yw yn y glorian, ychydig iawn iawn o bwysau y mae hi’n ei ddwyn. 

Yn gyfreithiol ac yn ymarferol, mae rhyddid y farchnad a’r datblygwyr yn drech na hi. 

 

 

YR ANGEN AM SYLFAEN MEWN DEDDF

 

Beth sydd i’w wneud felly?  Mae angen sicrhau dau beth:

 

·        yn gyntaf, fod yr iaith Gymraeg yn y glorian,

 

·        yn ail bod ganddi’r pwysau priodol mewn achosion priodol

 

a hynny heb unrhyw amheuaeth cyfreithiol.

 

Ni fydd dogfen bolisi newydd na chyngor technegol newydd yn ddigon i gyflawni hyn.  Mae angen sylfaen mewn deddf.

 

Mae’n briodol cymharu sut y mae gan adeiladau hanesyddol, creaduriaid gwyllt ac ardaloedd pwysig o ran cadwraeth naturiol gyfundrefnau statudol sydd yn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu a’u rhoi yn y glorian mewn achosion cynllunio.  Mae deddfau sy’n rhoi dyletswyddau, hawliau a grymoedd penodol i Cadw a Chyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o’r cyd-destun hwn.  Digwyddodd hyn gan nad oedd cyfraith feddal yn ddigonol i sicrhau’r warchodaeth angenrheidiol.

 

 

BETH YW’R ANGHENION?

 

Rhestr siopa fras yw hon, ond dyma y mae Dyfodol i’r Iaith yn credu sydd ei angen:

 

1.  Datganiad statudol diamwys ei bod hi’n gyfreithlon i gymryd ystyriaeth o faterion yn ymwneud â hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol wrth ystyried ceisiadau cynllunio.  Dyma’r lleiafswm y gellir ei ddisgwyl, ac ni fydd yn costio dim i’r pwrs cyhoeddus.

 

2.  Sefydlu cyfundrefn statudol (ar batrwm Cadw neu Gyfoeth Naturiol Cymru) dan oruchwyliaeth awdurdod lled braich oddi wrth y Llywodraeth sydd yn gyfrifol am ofalu nad yw datblygiadau yn effeithio yn andwyol ar hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol.  Fel rhan o’r gyfundrefn gellid ystyried dynodi ardaloedd fel rhai o sensitifrwydd ieithyddol, lle byddai rhai mesurau penodol ar waith ee rhagdybiaeth yn erbyn caniatáu datblygiadau sy’n cynyddu nifer yr anheddau y tu hwnt i ryw ganran benodol

 

3.  Camau penodol eraill er mwyn diogelu’r Gymraeg gan gynnwys mewn perthynas ag enwau lleoedd.